Dyma'r olygfa harddaf a'r dristaf yn y byd i mi. Yr un olygfa yw hi â'r un ar y dudalen flaenorol, ond rwy i wedi ei thynnu eilwaith er mwyn i chi gael ei gweld hi'n iawn. Yma yr ymddangosodd y tywysog bach ar y Ddaear, ac yn ddiweddarach oddi yma y diflannodd.
Edrychwch yn ofalus ar yr olygfa hon er mwyn bod yn siw o'i hadnabod, os byddwch chi ryw ddiwrnod yn teithio yn yr anialwch yn Affrica.
Os digwydd i chi fynd y ffordd yma, rwy'n erfyn arnoch chi i beidio â brysio, arhoswch eiliad yn union o dan y seren! Os daw plentyn atoch chi, os yw e'n chwerthin, os oes gwallt melyn ganddo fe, os nad yw e'n ateb pan ych chi'n ei holi, hawdd dyfalu pwy yw e. Yna, byddwch garedig! Peidiwch â 'ngadael i i fod mor drist: ysgrifennwch ata i'n syth i ddweud ei fod e wedi dychwelyd...